Cyfeillion Côrdydd



 

Sioned James 1974 - 2016

Sioned James
Gyda thristwch daeth y newyddion am farwolaeth Sioned James,
arweinyddes a sylfaenydd Côrdydd

Cofio Sioned James

 


Sioned James
Arweinydd
Côrdydd

 

 

 

Daw Sioned, James, arweinydd Côrdydd, o Landysul yn wreiddiol ond erbyn hyn, mae wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers 1994. Graddiodd o Brifysgol Cymru Caerdydd gyda gradd dosbarth cyntaf ym 1997. Roedd gan Sioned diddordeb mewn canu corawl ers ei hieuenctid cynnar a chafodd y cyfle i ganu gyda rhai o gorau mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnwys Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Ysgol Gerdd Ceredigion, Cantorion Teifi, Swansea Bach Choir a sawl grwp lleisiol.

Bu'n ddigon ffodus i ddod o dan adain dylanwadol Islwyn Evans a John Hugh Thomas yn gynnar iawn yn ei haddysg, a chafodd y cyfle ganddo i arwain corau megis Ysgol Gerdd Ceredigion a chorau Ysgol Dyffryn Teifi.

Cafodd y cyfle yn 1999 i gyd-weithio ar gryno ddisg Cwpan Rygbi'r Byd gan ysgrifennu'r rhagair am gerddoriaeth corawl Cymru a'r geiriau i gan Bryn Terfel a Shirley Bassey, `World in Union'. Ymddangosodd ar raglen rhwydwaith BBC 1 ar “Can’t Sing Singers” lle bu’n trwytho 12 o bobol sut i ganu am 6 mis.  Mae hi wedi gweithio fel cyd-lynydd Cerddoriaeth ar nifer o raglenni poblogaidd, gan gynnwys tair cyfres o Con Passionate, dwy gyfres o Coalhouse ac mae hi hefyd yn arwain Cor Pensiynwyr y Mochyn Du.  Bu’n gweithio fel darlithydd ar y cwrs Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau ond mae hi nawr yn Gyfarwyddwr ar Boom Talent, cwmni sy’n datblygu gyrfaoedd cyflwynwyr, actorion a chantorion.

Sioned James