Sioned yn dathlu 10
gyda Jonsi 25/01/2010


   Dathlu 10

DATHLU DENGMLWYDDIANT

Mae 2010 yn flwyddyn fawr a nodedig i un cor cymysg o’r Brifddinas, sef Côrdydd.  Mi fydd 2010 yn flwyddyn gyffrous o ddathliadau wrth iddynt ddathlu penblwydd arbennig iawn yn 10 oed.

I nodi’r garreg filltir, mae’r penwythnos nesaf yn hollbwysig i 130 o gantorion, yn aelodau presennol a chyn-aelodau, wrth iddynt ymgasglu ar gyfer Cinio Mawreddog yn y Park PlazaMr Alwyn Humphreys yw’r gwr gwadd ac mae’n addo bod yn noson llawn nostalgia, o gofio, o ganu ac o ddathlu.

Mae’r dathliadau yn parhau trwy 2010 gyda chalendr cyffrous o gyngherddau a digwyddiadau gan gynnwys recordio CD arall ym mis Ebrill a thaith i Nantes

Uchafbwynt y dathliadau fydd cyd-weithio yn agos gydag Eric Whitacre, un o gyfansoddwyr cyfoes mwyaf toreithiog a phoblogaidd y byd.  Mi fydd Whitacre yn cynnal cyngerdd arbennig iawn gyda Chôrdydd a gobeithio fydd hwn yn gychwyn ar berthynas hirhoedlog a ffyniannus rhyngddynt.

Mae Côrdydd wedi mwynhau llwyddiant mawr ers eu sefydlu fis Ionawr 2000.  Maent wedi cipio’r wobr gyntaf mewn pum Eisteddfod Genedlaethol yn y chwe mlynedd diwetha’, gan gael eu dyfarnu yn “Gôr yr Wyl” yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Fro yn 2008. Roedd 2009 yn dipyn o flwyddyn iddynt hefyd wrth iddynt gipio’r teitl am y Côr Cymysg Gorau yng Nghystadleuaeth S4C, “Côr Cymru”, a’r arweinyddes, Sioned James yn ennill gwobr Arweinydd Gorau y gyfres hefyd.

Mae Côrdydd wedi perfformio yn rhyngwladol ar lwyfannau Barbados a Hong Kong, ac maent yn brysur drwy’r flwyddyn yn canu mewn cyngherddau lleol a chenedlaethol ac yn cyfrannu at elusennau yn fynych.

Mae Côrdydd wedi perfformio yn helaeth ar raglenni ar S4C, BBC, ar Sunday Half Hour Radio 3, ac yn cael y cyfle bob blwyddyn i ganu ar Stadiwm y Mileniwm fel adloniant cyn y gemau Rygbi.  Maent yr un mor gartrefol yn perfformio yn ‘a-capela’ â’r gweithiau corawl mawr mwyaf poblogaidd fel Requiem Verdi, Brahms a’r Meseia.  Roedd ei CD cyntaf nhw o Requiem John Rutter, gydag Elin Manahan Thomas ym llwyddiant ysgubol wedi i’r recordiad gael sêl bendith y cyfansoddwr ei hun.

 

   Cliciwch i ddarlen y llyfryn Dathlu 10

Sioned James

Sioned James - Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009
Sioned James - Arweinydd Gorau Côr Cymru 2009

 

Sioned James

 

Cyngerdd 4 Côr

 

 



Cyngerdd

 

 

Eisteddfod Abertawe 2006

Enillwyr Eisteddfod Bala 2009, Caerdydd 2008, Abertawe 2006, Eryri 2005, Casnewydd 2004

 

 

 

Cyngerdd Eric Whitacre 6 Tachwedd 2010

Cyngerdd Eric Whitacre

 

 

 

 

 

 

 

 

 

dewi

1 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 206607