Cyfeillion Côrdydd



 

 

Branwen Gwyn

Cyfeilydd: Branwen Gwyn

 

 

Yn un o sylfaenwyr Côrdydd, mae Branwen wedi bod yn canu a chyfeilio i'r côr ers y dechrau un! Yn ogystal â bod yn bianydd, mae hi hefyd yn canu'r trwmped .  Yn ei harddegau, bu'n brif drwmpedydd i nifer o ensembles cerddorol De Morgannwg, gan gynnwys y Gerddorfa, Band Chwyth Ieuenctid, a'r Ensemble Pres Symffonig.  Aeth ymlaen i ennill Ysgoloriaeth Berfformio i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo ar ganu'r utgorn yno, a dod yn brif drwmpedydd Cerddorfa'r Brifysgol.  Yn ddiweddarach, bu Branwen yn aelod o fand prês BTM (Bedwas, Trethomas a Machen), gan gyrraedd rownd derfynol yr Uwch-Adran ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain yn 2005.  Y dyddiau yma, dim ond ar gyfer priodasau ffrindiau bydd Branwen yn canu'r trwmped!

Prif offeryn Branwen yw'r piano.  Tra'n ei harddegau, enillodd ysgoloriaethau iau i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain a'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Dechreuodd diddordeb Branwen mewn cyfeilio yn Ysgol Glantaf, wrth i Alun Guy roi cyfleoedd iddi gyfeilio i gorau'r ysgol.  Tra'n y brifysgol, a byth oddi ar hynny, mae wedi cyfeilio i nifer o unigolion a chorau o gwmpas Caerdydd, ond mae'r flaenoriaeth a'r ffyddlondeb i Gôrdydd bob tro, wrth gwrs!

 

Branwen Gwyn